Cynlluniwyd rhaglen Estyn Allan i hyfforddi un cynrychiolydd o bob awdurdod llyfrgell yng Nghymru mewn ystod eang o sgiliau a syniadau sy'n canolbwyntio ar y darllenydd. Bydd pob un o lyfrgellwyr Estyn Allan yn awyddus i drosglwyddo i'w cydweithwyr yr hyn a ddysgwyd ganddyn nhw yn eu dyddiau hyfforddi.
Mae'r trosglwyddo hwn yn digwydd yn rhannol trwy gynllunio a darparu prosiectau bach a mawr, trwy fabwysiadu syniadau newydd ac ymarferol mewn llyfrgelloedd, ond hefyd trwy drefnu sesiynau hyfforddi.
Fe welwch yma esiamplau o sesiynau byr y gall llyfrgellwyr Estyn Allan eu cynnwys yn eu rhaglenni eu hunain. Gellir eu defnyddio yn ychwanegol at y taflenni, y nodiadau a'r trafodaethau o'r dyddiau hyfforddi gwreiddiol.
Os yw rhedeg sesiwn hyfforddi yn rhywbeth newydd i chi, fe fydd yma beth cyngor ymarferol i baratoi, sefydlu a rhedeg sesiwn byr gyda staff y llyfrgell.